Cylchgrawn lliwgar, 72 tudalen, gan ferched am ferched Cymru. Mae'n llawn erthyglau ar iechyd, ffasiwn, teithio, bwyd, materion cyfoes, steilio cartref a llawer mwy!
Golygyddol
Cara
arwain drwy esiampl
BETH YW CENEDL NODDFA?
Cae chwarae rhwng Washington a Beijing? • Y tro hwn mae ELIN ROBERTS, sy’n arbenigo mewn materion geowleidyddol, yn trafod sut y mae gwledydd De America yn rhannu eu teyrngarwch rhwng dau o bwerau mawr y byd.
Math gwahanol o riant • I CATRIN JENKINS, roedd dod yn fam yn gyfle i dorri’r cylch, herio’r ofn, ac adeiladu math newydd o gariad. Aeth LLINOS DAFYDD i’w holi…
Y goraua’r gwaethaf • Mae Cara wedi bod yn holi pobl am yr anrhegion Nadolig gwaethaf, a’r rhai gorau, iddyn nhw eu derbyn.
Canllaw anrhegion Cara • Gyda chymaint o gynnyrch arbennig yn cael ei greu yng Nghymru, beth am gefnogi’r busnesau bach yma y Nadolig hwn? Neu brynu trît i chi’ch hunan unrhyw adeg o’r flwyddyn, wrth gwrs!
Arbed arian • Dyma gyngor DONNA DAVIES (The Savvy Welsh Girl) ar sut i arbed rhywfaint o arian yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.
Nadolig y garddwr • Mae NAOMI SAUNDERS wedi chwilio’r we am anrhegion i’r garddwyr yn eich plith, ar gyfer y Nadolig neu unrhyw adeg o’r flwyddyn.
artistiaid arloesol • Roedd 26 Medi 2025 yn ddyddiad mawr ar gyfer cerddoriaeth yng Nghymru, gyda thair o gantorion mwyaf cyffrous ac arloesol y wlad yn rhyddhau eu halbymau newydd hirddisgwyliedig. Dyma farn Cara am y tri. Peidiwch â cholli’r cyfle i’w gweld yn fyw – a chefnogwch eich gigfannau lleol!
Kate a Phil, y fets • Mae KATE O’SULLIVAN A PHIL THOMAS yn filfeddygon sydd wedi gweithio’r rhan fwyaf o’u bywyd yng nghefn gwlad Cymru. Un o Lurgan, Gogledd Iwerddon, yw Kate, ac mae Phil yn frodor o Lanfihangel Genau’r Glyn (Llandre), yng ngogledd Ceredigion. Maen nhw’n rhieni i bedwar o blant – Daniel, Dafydd, Gwenllian a Hannah – ac yn berchen ar ddau whippet ac un gath. Fe fu’r ddau yn gweithio yng Nghambodia yn y nawdegau cynnar ac maen nhw’n medru rhywfaint ar y iaith Khmer o hyd.
artà, Mallorca • FFION HAF LEWIS sy’n rhannu ei hanes â Cara.
Oes o ddeietio! • Bu gan BETHAN ANTUR berthynas gymhleth â bwyd a’i phwysau erioed. Mae’n adrodd ei stori wrth Cara.
Dychwelyd yn ôl i dy hunan • Beth yw trawma? ELIN PRYDDERCH sy’n trafod y pwnc.
Iechyd meddwl da! • Mae ELISE GWILYM yn gwnselydd a therapydd cerdd ac mae’n sôn wrth Cara am therapi sy’n delio â gorbryder.
Ffêc-awe • Mae DELYTH HUW THOMAS yn cynnig ryseitiau sy’n ail-greu rhai o’n hoff fwydydd têc-awe.
Gwin a sbeis • Dyma argymhellion gwin yr arbenigwr DEIAN BENJAMIN ar gyfer y ryseitiau ffêc-awe.
Gwyrdd a mwy o wyrdd • Dyma erthygl olaf SIWAN DAVIES am y fraint o gael adnewyddu hen dŷ a’i lenwi â bywyd a chariad.
Tai Sioraidd cymesur, crand • Y tro hwn, mae BETHAN SCOREY yn trafod cartrefi a gafodd eu hadeiladu yn ystod cyfnod y brenhinoedd Siôr.
Gweni yn tywynnu • Gyda’r gaeaf yn ei anterth, beth well na chanhwyllau i roi naws cynnes ac arogl bendigedig yn y tŷ. MELERI WYN JAMES sydd wedi bod yn holi Amanda o gwmni Gweni.
Lledr ffug ond ffab! • Y tro hwn, mae HELEN ANGHARAD HUMPHREYS yn edrych ar y dewis anhygoel o ddillad lledr ffug sydd ar gael y gaeaf hwn.
Sesiwn steilio • SIONED LLEWELYN WILLIAMS, o gwmni steiLysh, sy’n ein cynghori ar sut i roi gwedd newydd ar y ffrog fach ddu y gaeaf hwn. Ond mae’n dechrau’r erthygl drwy sôn am sesiwn steilio arbennig iawn.
Y frog fach ddu
I Sanclêr – Y dref sy’n teimlo fel pentref • ELEN JONES sy’n ein tywys drwy dref fach Sanclêr yn Sir Gâr.
O’r clos
Gawn ni goeden? • Dyma gerdd gan ELINOR WYN REYNOLDS o’r gyfrol newydd Trysorau’r Nadolig.
Newid gyrfa •...